‘DA NI’N NÔL…

Ar ôl 15 mis hir ers y tân, rydyn ni’n falch iawn o gael cyhoeddi o’r diwedd y bydd y Glynny yn ailagor ei ddrysau ar y 12fed o Fehefin.

Fysa hyn ddim wedi bod yn bosib heb yr holl gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael ar hyd y ffordd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu ni i ailadeiladu’r lle, ac yn enwedig i Robinsons am eu cymorth, cefnogaeth a’u harweiniad drwy’r daith.

Diolch hefyd i’n cymuned arbennig am yr holl negeseuon caredig, yr anogaeth a’r amynedd dros y misoedd diwethaf. Mae’n golygu lot fawr.

Fedrwn ni ddim aros i’ch croesawu chi gyd yn ôl drwy’r drysau.

Diolch o galon i chi gyd ❤️

Sean & Martin

search previous next tag category expand menu location phone mail time cart zoom edit close